top of page

 

Llogi Beiciau - Aelodau a phawb arall

 

Rydym yn llogi i aelodau ac i bawb arall (Llogi Cyffredinol). I logi - llenwch ein Ffurflen Gais i Archebu

​

​

​

 

 

Gallwch hefyd ffonio 02920390713 neu ebostio bookings@cardiffpedalpower.org.uk

 

  • Mae ystod enfawr o feiciau safonol ac addasol a threiciau i'w llogi, gan gynnwys E-Feiciau (mae rhai o'r beiciau addasol ar gael i'n haelodau yn unig)

  • Gall unigolion a grwpiau logi beiciau ac mae rhai ar gael i oedolion a phlant (mae gennym seddi beiciau i blant hefyd)

  • Codir fesul person (mae aelodau’n cael gostyngiad yn ogystal â buddion eraill)

  • Awr yw’r cyfnod llogi byrraf. Mae modd llogi fesul awr, diwrnod, wythnos a mis hefyd.

  • Rhaid archebu ymlaen llaw i logi o'n safle ym Mhontcanna. Nid oes angen archebu i logi o’n safle ym Mae Caerdydd gan fod croeso i bobl alw heibio

  • I'r rhai nad ydyn nhw’n aelodau, rhaid dangos cerdyn adnabod â ffotograff ar y ddau safle - byddwn yn ei gadw nes byddwch yn dychwelyd eich beic

  • Ar gyfer E-Feiciau, bydd arnom angen blaendal ad-daladwy o £250 (£300 gyda gwefrwr)

  • Mae ein prif safle ym Mhontcanna ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae gwasanaeth llogi cyffredinol ar gael ar ein safle llai ym Mae Caerdydd yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf

​

Os oes gennych chi unrhyw anghenion penodol neu os nad ydych yn siŵr pa feic fydd ei angen arnoch chi, byddem yn argymell asesiad.

​

Gofynnir i’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau ddarllen ein Telerau ac Amodau Llogi a’u llofnodi.

​

​

​

 

​

 

 

 

 

 

 

bottom of page