Job Vacancies
We are hiring!! Read below for Engagement and Communications Officer and Mechanic.
Thanks to The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, and Motability UK, we have exciting opportunities for you to consider! Our passion is getting people cycling - all ages, all abilities - and we need people with energy, enthusiasm, sensitivity and reliability to help us make that happen, whatever the role. So, if you would like a unique experience working for an independent, award-winning cycling charity, we'd love to talk with you.
Send all applications to director@cardiffpedalpower.org.uk
We urgently need an Engagement and Communications Officer to help us tell even more people about our services and have decided to extend the deadline for applications until midday 16th June. This is a great opportunity for the right person, so take a read and see if it's you!
Engagement and Communications Officer
Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu
Teitl y Swydd: Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu
Oriau: 22 awr yr wythnos
Tâl: £13.37 yr awr
Yn atebol i’r: Cyfarwyddwr
Telerau cyflogaeth: Contract 3 blynedd, yn amodol ar gyfnod prawf a geirdaon
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, 2 Mehefin.
Prif ddiben y swydd
Disgrifiad o’r rôl
Mae’r rôl ddynamig ac amrywiol hon yn cwmpasu pob agwedd ar ysgogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Pedal Power a’n gwaith, gan gynnwys cynllunio a chyflwyno digwyddiadau. Fel rhan o dîm bach, ystwyth a chydweithredol, mae’r rôl eang hon yn cwmpasu sawl elfen, felly rydym ni’n chwilio am rywun sy’n llawn hunangymhelliant ac yn angerddol am y gwaith hwn.
Swydd-ddisgrifiad (Dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol)
-
Datblygu a chyflwyno cynllun marchnata a chyfathrebu a rheoli pob agwedd i’w chyflawni, fel y wasg, cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus, cynnwys y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron, a phob agwedd gysylltiedig
-
Adeiladu a rheoli rhestri postio targedig
-
Cynllunio a hwyluso’r gwaith o gynhyrchu adnoddau cyfathrebu a deunyddiau marchnata o ansawdd uchel, fel datganiadau i’r wasg, erthyglau, cyfweliadau’r cyfryngau a chynnwys y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n ennyn diddordeb ac yn addysgu ein rhanddeiliaid
-
Cynnal brand clir (gan gynnwys logo, arddull weledol, ffotograffiaeth, canllawiau arddull ysgrifenedig) a sicrhau bod yr holl gyfathrebiadau’n cadw at ganllawiau’r brand
-
Cynorthwyo â datblygu a chyflwyno pob digwyddiad, gan gynnwys rhai hyrwyddol a rhai chodi arian
-
Ein helpu i weithio tuag at fod yn fwy dwyieithog yn ein holl gyfathrebiadau
Datganiad cyffredinol
Mae ein hymgeisydd delfrydol yn aelod angerddol o dîm ac yn berson pobl, sy’n dangos ymrwymiad i genhadaeth a gweledigaeth Pedal Power. Byddwch yn drefnus, yn rhagweithiol ac yn rhywun sy’n meddwl yn greadigol, sy’n ffynnu wrth weithio mewn mudiad bach, lle nad yw’r un diwrnod yn debyg i’r llall, ac sy’n cael blas ar y cyfle i gyfrannu at bob agwedd ar yr elusen.
MANYLEB YR UNIGOLYN
Cymwysterau, Sgiliau a Phrofiad
-
Lefel gradd neu gyfwerth (H)
-
Diddordeb/profiad eglur – neu gymhwyster cydnabyddedig – mewn marchnata/cyfathrebu (H)
-
Profiad o weithio mewn rôl sy’n ymwneud â marchnata neu gyfathrebu (H)
-
Sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda sillafu, gramadeg, atalnodi a sylw rhagorol i fanylion, a gallu i ysgrifennu cyfathrebiadau perthnasol a gafaelgar i amrywiaeth o gynulleidfaoedd (H)
-
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda’r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol (H)
-
Cymhwysedd mewn systemau TG (H) a phecynnau dylunio fel Microsoft Publisher (D)
-
Yn gyfarwydd â chreu a rheoli cynnwys ar gyfer gwefannau (H)
-
Profiad o amrywiaeth eang o weithgareddau marchnata, a gwybodaeth amdanynt, gan gynnwys marchnata cyffredinol, hysbysebu, marchnata digidol a chyfathrebu (H)
-
Profiad o reoli dylunio a chynhyrchu deunyddiau marchnata (H)
-
Gallu siarad Cymraeg (D)
Priodoleddau Personol
-
Hynod drefnus, gan ddangos lefel uchel o flaengaredd i sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â therfynau amser (H)
-
Aelod cadarn o dîm (H)
Hyblyg, cadarnhaol ac ystwyth, yn barod i ymgymryd ag amrywiaeth eang o dasgau (H)
Brwd, llawn cymhelliant ac yn dysgu’n gyflym (H)
Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i gael y maen i’r wal (H)
Cyfrifoldebau Ychwanegol
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd:
-
Fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd, fel y bo’n briodol
-
Ymgymryd â’r hyfforddiant a’r datblygiad proffesiynol sy’n cael eu hystyried yn angenrheidiol at ddiben y swydd
-
Cydymffurfio â’r Polisi a’r Gweithdrefnau Cyfle Cyfartal yn y gweithle
-
Cydymffurfio â phob polisi a gweithdrefn arall
-
Cyfrannu at fonitro a gwerthuso
-
Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cynnal cyfrinachedd
-
Cynnal cofnodion priodol
-
Cydweithredu â’r Elusen i sicrhau bod dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn. Cyfrifoldeb personol deiliad y swydd yw cydymffurfio â phob gweithdrefn, rheol a chod ymarfer; defnyddio pob cyfarpar diogelwch, dyfais, dillad a chyfarpar amddiffynnol sy’n cael eu ffitio neu sydd ar gael yn gywir ac yn gydwybodol, a mynychu cyrsiau hyfforddiant, fel y bo’r gofyn.
-
Gall cyfrifoldebau ychwanegol sy’n gymesur â’r swydd gael eu nodi yn ôl gofyn y sefydliad, trwy gyd-drafod â deiliad y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, 16 Mehefin.
Job Title: Engagement and Communications Officer
Hours: 22 hours per week
Remuneration: £13.37 per hour
Responsible to: Director
Terms of employment: 3 year contract, subject to probationary period and references
Start date: As soon as possible
Deadline for applications midday June 2nd
Main purpose of the post
Description of role
This dynamic and varied role encompasses all aspects of driving awareness and understanding of Pedal Power and our work, including event planning and delivery. Part of a small, agile and collaborative team, this is an expansive role that covers many bases, so we are looking for someone who is self-driven and who passionate about this work.
Job Description (Specific duties and responsibilities)
-
Develop and deliver a marketing and communications plan and manage all deliverables such as press, PR opportunities, web and social media content, newsletters, and all related aspects
-
Build and manage targeted mailing lists
-
Plan and facilitate the production of high-quality marketing materials and communication tools such as press releases, articles, media interviews and web and social content, which engage and inform our stakeholders
-
Maintain a clear brand (including logo, visual style, photography, written style guides) and ensure that all communications adhere to brand guidelines
-
Support in the development and delivery of all events, both promotional and fund-raising
-
Help us work towards being more bilingual in all our communications
General statement
Our ideal candidate is a passionate team player and people-person who shows a commitment to the Pedal Power’s mission and vision. You will be an organised, proactive and creative thinker who thrives on working in a small organisation, where no day is the same and relishes the opportunity to contribute to all areas of the charity.
PERSON SPECIFICATION
Qualifications, Skills & Experience
-
Degree level or equivalent (E)
-
Demonstrable interest/experience – or recognised qualification – in marketing/communications (E)
-
Experience of working in a marketing or communications related role (E)
-
Strong written and verbal communication skills, with excellent spelling, grammar, punctuation and attention to detail and an ability to write relevant and compelling communications for a variety of audiences (E)
-
Excellent interpersonal skills with the ability to communicate with a wide range of internal and external stakeholders (E)
-
Competence in IT systems (E) design packages such as Microsoft Publisher (D)
-
Familiarity with creating and managing content for websites (E)
-
Experience in, or knowledge of, a broad range of marketing activities including general marketing, advertising, digital marketing and communications (E)
-
Experience of managing the design and production of marketing materials (E)
-
Ability to speak Welsh (D)
Personal attributes
-
Highly organized, demonstrating a high level of initiative to ensure deadlines are achieved (E)
-
A strong team player (E)
Flexible, positive and adaptable, willing to undertake a wide variety of tasks (E)
Keen, highly motivated and a quick learner (E)
Can-do attitude and drive to get the job done (E)
Additional Responsibilities
The post holder will be expected to:
-
Attend and contribute to meetings as appropriate
-
Undertake training and professional development deemed necessary for the purpose of the post
-
Comply with Equal Opportunities Policy and Procedures in the workplace
-
Comply with all other policies and procedures
-
Contribute to monitoring and evaluation
-
In line with GDPR, maintain confidentiality.
-
Maintain appropriate records
-
Co-operate with the Charity to ensure health and safety duties and requirements are complied with. It is the post-holder’s personal responsibility to conform to all procedures, rules and codes of practice; to use properly and conscientiously all safety equipment, devices, protective clothing and equipment which is fitted or made available and to attend training courses as required.
-
Additional responsibilities commensurate with the post may be identified as the organisation requires, through negotiation with the post holder.
Deadline for applications midday June 16th
Mechanic
Mecanydd
Job Title: Mechanic
Hours: 37.5 hours available but this may split into two roles of 15 hrs and 22.5 hrs
Remuneration: £11.15 per hour
Responsible to: Senior Mechanic
Terms of employment: 12 months with possible extension
Start date: As soon as possible
Main purpose of the post
To refurbish bikes, supporting our project Better by Bike, which aims to support those furthest from cycling. This role may also include delivering Dr Bike sessions and basic maintenance sessions, delivered in community settings as well as on our sites (Pontcanna and the Bay)
Main duties of the Post
-
Refurbishing bikes, as part of our Better by Bike project
-
Working as part of a close team, supporting the aims of the Better by Bike project
-
Organising work as part of maintaining a safe working environment and ensuring high standard of quality of work.
-
Working with other Pedal Power staff in regard to the space demands of Pedal Power to ensure the safe storage of bikes and best use of space.
General requirements
-
Attend staff meetings and other meetings as appropriate.
-
Undertake training and development deemed necessary for the purpose of the post.
-
Comply with Equal Opportunities Policy and procedures in the workplace.
-
Comply with all other policies and procedures of Pedal Power.
-
In line with the GDPR, maintain confidentiality.
-
Co-operate with the Charity to ensure health and safety duties and requirements are complied with. It is the post-holder’s personal responsibility to conform to all procedures, rules and codes of practice; also to use properly and conscientiously all safety equipment, devices, protective clothing and equipment which is fitted or made available and to attend training courses as required
-
Maintain appropriate records
-
Additional responsibilities commensurate with the post will be identified by the Senior Management team as the organisation requires, through negotiation with the post-holder.
The job description will be reviewed periodically to take into account changes and development in the organisation.
PERSON SPECIFICATIONS
Person specification (E = Essential / D = Desirable)
Skills/Abilities
-
Good experience and demonstrable skills of working in a cycle workshop. E
-
Have Cytech or equivalent cycle mechanic qualification D
-
Ability to refurbish bikes to a high standard and undertake mechanic activity E
-
Good verbal and written communication skills E
-
Ability to drive a long wheel base vehicle D
-
Competent cyclist E
-
Ability to cycle to locations across the city E (adaptive, cargo and two wheel bikes can be provided)
-
Excellent organisational skills E
-
Good IT skills D
-
Good understanding of Cardiff’s geography D
-
Welsh speaker D
Qualifications/ Experience
-
Cytech or equivalent cycle mechanic qualification D
-
GCSE level education D
Personal Attributes
-
Friendly, reliable, trustworthy and honest E
-
Team worker E
-
Ability to work in a busy organisation E
-
Ability to complete tasks to a high standard E
-
Good interpersonal skills E
-
Ability to use initiative E
-
Tidy and organised person E
We are an seeking an excellent mechanic able to breathe new life into donated bikes. This is an essential part of our Better by Bike project and may also involve delivering Dr Bike sessions and basic maintenance sessions in the community – all part of our aims of helping people access the benefits of cycling. We are a very friendly team, all working to make a positive difference to people’s health and well-being. Pedal Power is Wales’ leading inclusive cycling charity and we’d like to hear from you. Further details and application form on our website.
DOWNLOAD AN APPLICATION FORM HERE
Teitl y Swydd: Mecanydd
Oriau: Mae 37.5 awr ar gael ond gellir rhannu’r swydd yn ddwy rôl am 15 awr a 22.5 awr
Tâl: £11.15 yr awr
Yn atebol i: Uwch Fecanydd
Telerau cyflogaeth: 12 mis gydag estyniad posibl
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Prif ddiben y swydd
Adnewyddu beiciau, cefnogi ein prosiect Better by Bike, sy’n anelu at gynorthwyo’r rheiny sydd lleiaf tebygol o seiclo. Gallai’r rôl hon hefyd gynnwys cyflwyno sesiynau Dr Bike a sesiynau cynnal a chadw sylfaenol, wedi’u cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol ac ar ein safleoedd hefyd (Pontcanna a’r Bae).
Prif ddyletswyddau’r swydd
-
Adnewyddu beiciau, fel rhan o’n prosiect Better by Bike
-
Gweithio fel rhan o dîm agos, yn cefnogi nodau prosiect Better by Bike
-
Trefnu gwaith fel rhan o gynnal amgylchedd gweithio diogel a sicrhau gwaith o safon ac ansawdd uchel.
-
Gweithio gyda staff eraill Pedal Power o ran gofynion gofod Pedal Power i sicrhau bod beiciau’n cael eu storio’n ddiogel, a gwneud y defnydd gorau o ofod.
Gofynion cyffredinol
-
Mynychu cyfarfodydd staff a chyfarfodydd eraill, fel y bo’n briodol.
-
Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad sy’n cael ei ystyried yn angenrheidiol at ddiben y swydd.
-
Cydymffurfio â Pholisi a Gweithdrefnau Cyfle Cyfartal yn y gweithle.
-
Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau eraill Pedal Power.
-
Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), cynnal cyfrinachedd.
-
Cydweithredu â’r Elusen i sicrhau cydymffurfio â dyletswyddau a gofynion iechyd a diogelwch. Cyfrifoldeb personol deiliad y swydd yw cydymffurfio â’r holl weithdrefnau, rheolau a chodau ymarfer; a hefyd gwneud defnydd priodol a chydwybodol o’r holl offer diogelwch, dyfeisiau, dillad ac offer amddiffynnol sydd wedi’u gosod neu y trefnir eu bod ar gael, a mynychu cyrsiau hyfforddi fel sy’n ofynnol.
-
Cynnal cofnodion priodol.
-
Bydd cyfrifoldebau ychwanegol yn gymesur â’r swydd yn cael eu nodi gan yr uwch dîm rheoli fel sy’n ofynnol gan y sefydliad, trwy drafod â deiliad y swydd.
-
Bydd y swydd-ddisgrifiad yn cael ei adolygu o dro i dro i ystyried newidiadau a datblygiad yn y sefydliad.
MANYLEBAU’R UNIGOLYN
Manyleb yr unigolyn (H = Hanfodol / D = Dymunol)
Sgiliau / Galluoedd
-
Profiad da a sgiliau eglur o ran gweithio mewn gweithdy seiclo. H
-
Meddu ar gymhwyster mecanydd Cytech neu gymhwyster cyfatebol mecanydd seiclo D
-
Gallu i adnewyddu beiciau i safon uchel ac ymgymryd â gweithgarwch mecanydd H
-
Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig H
-
Gallu i yrru cerbyd â sylfaen olwyn hir D
-
Seiclwr cymwys H
-
Gallu i seiclo i leoliadau ar hyd a lled y ddinas H (gellir darparu beiciau addasol, cargo a beiciau dwy olwyn)
-
Sgiliau trefnu rhagorol H
-
Sgiliau TG da D
-
Dealltwriaeth dda o ddaearyddiaeth Caerdydd D
-
Siarad Cymraeg D
Cymwysterau / Profiad
-
Cymhwyster mecanydd Cytech neu gymhwyster cyfatebol mecanydd seiclo D
-
Addysg lefel TGAU D
-
Priodoleddau Personol
-
Cyfeillgar, dibynadwy, didwyll a gonest H
-
Gweithiwr tîm H
-
Gallu i weithio mewn sefydliad prysur H
-
Gallu i gwblhau tasgau i safon uchel H
-
Sgiliau rhyngbersonol da H
-
Gallu i ddefnyddio blaengaredd H
-
Person taclus a threfnus H
Rydym yn chwilio am fecanydd rhagorol i roi bywyd newydd i feiciau a gyfrannwyd. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n prosiect Better by Bike a gallai hefyd gynnwys cyflwyno sesiynau Dr Bike a sesiynau cynnal a chadw sylfaenol yn y gymuned – sydd i gyd yn rhan o’n nodau i helpu pobl i elwa ar fuddion seiclo. Rydym ni’n dîm cyfeillgar iawn, bob un yn gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles pobl. Pedal Power yw prif elusen seiclo cynhwysol Cymru, a hoffem glywed oddi wrthych chi. Gellir cael mwy o fanylion a ffurflen gais ar ein gwefan.
DOWNLOAD AN APPLICATION FORM HERE