top of page

Teitl y Swydd: Derbynnydd 

Lleoliad: Pedal Power, Caerdydd CF11 9LB 

Oriau: Ystyrir ceisiadau rhan-amser/amser llawn (dydd Mawrth i ddydd Sadwrn).  

Rydym yn agored i gynigion i rannu’r swydd neu fodelau cydweithio. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio ar ddydd Sadwrn, ac mae oriau gweithredu tymhorol yn berthnasol.

Cyflog: £12.21 yr awr (£21,269 Cyfwerth ag Amser Llawn, bydd y cyflog gwirioneddol yn dibynnu ar yr oriau gwaith y cytunir arnynt)

Contract: Parhaol, yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis 

Yn atebol i'r: Goruchwyliwr Llogi Beiciau

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, ddydd Mawrth 20 Mai 2025

I wneud cais: llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd at jobs@cardiffpedalpower.org.uk

Cyfweliadau: Dydd Gwener, 23 Mai 2025  

​

Amdanom ni:

Pedal Power yw’r elusen fwyaf yng Nghymru ym maes seiclo cynhwysol, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o wneud yn siŵr bod seiclo ar gael i bawb. O feiciau wedi'u haddasu i deithiau cymunedol, rydym yn chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl - yn enwedig y rhai ag anableddau, cyflyrau iechyd, neu sy'n cael eu cau allan yn gymdeithasol - rhag mwynhau’r llawenydd a’r rhyddid a geir o seiclo. Fel elusen, rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaethau cynhwysol a chefnogol, gan gynnig cyfleoedd seiclo sy'n hyrwyddo annibyniaeth a lles.

Rydym yn credu y dylai seiclo fod ar gael i bawb, yn hwyl, a galluogi pobl, ac rydym yn chwilio am Dderbynydd cyfeillgar a threfnus i'n helpu i groesawu pawb sy'n dod drwy ein drysau.

​

Y Rôl

Fel ein Derbynnydd, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i'n cwsmeriaid, gofalwyr ac ymwelwyr, a byddwch yn creu awyrgylch croesawgar a chynhwysol. Byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr bod ein desg flaen a’n gweithgareddau gweinyddol yn cael eu cynnal yn ddiffwdan. Mae eich rôl yn hollbwysig er mwyn helpu ein helusen i gynnig gwasanaeth a chymorth rhagorol i gwsmeriaid, yn ogystal â phrofiad gwych i bawb sy'n ymweld â Pedal Power. 

​

Ein Hymgeisydd Delfrydol

Byddwch chi'n ffynnu mewn rôl sy'n ymwneud â phobl ac yn cael boddhad o wneud i eraill deimlo'n gartrefol, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Rydych chi'n credu’n gryf ym mhŵer cymuned a chynnwys pobl, ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o sefydliad sy'n dileu rhwystrau i seiclo i bobl o bob gallu, cefndir a hunaniaeth.

Rydych chi'n naturiol drefnus ac yn mwynhau gwneud yn siŵr bod pethau'n rhedeg yn ddiffwdan y tu ôl i'r llenni. Boed yn helpu i ddewis y pecyn aelodaeth gorau, dod â chwsmer a'i swyddog hyfforddi seiclo ynghyd, ateb cwestiwn yn amyneddgar, neu’n helpu cydweithiwr i wneud gwaith gweinyddol, rydych chi bob amser yn hapus i helpu. Byddwch chi'n dod ag egni tawel a phositif i'r tîm, ac yn deall pwysigrwydd hygyrchedd, empathi a chyfathrebu da.

Yn fwy na dim, rydych chi'n hawdd mynd atoch chi, yn rhagweithiol, ac yn ymfalchïo mewn creu rhywle lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n perthyn.

​

Prif Gyfrifoldebau

  • Croesawu cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddyddiol a rhoi gwybodaeth am yr Elusen a'i gwasanaethau, gan gynnwys digwyddiadau. 

  • Rheoli ymholiadau a threfniadau llogi beiciau a rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid bob amser.

  • Ateb galwadau, ac ymateb i e-byst mewn modd cyfeillgar a chynhwysol, gan gyfeirio ymholiadau at yr aelod priodol o’r tîm.

  • Helpu i ymateb i ymholiadau am gofrestru ar gyfer digwyddiadau ac aelodaeth.

  • Derbyn taliadau gan gwsmeriaid drwy ddefnyddio system POS.

  • Gwneud yn siŵr bod popeth mewn trefn ar ddiwedd pob dydd o ran yr arian a gymerir.

  • Rhoi cymorth gweinyddol cyffredinol gan gynnwys mewnbynnu data a ffeilio dogfennau.

  • Mewnbynnu a chynnal cynnwys yn y gronfa ddata aelodaeth.

  • Gwneud yn siŵr bod y dderbynfa yn daclus, yn ddiogel, ac yn hygyrch i bawb.

  • Derbyn a didoli post a danfoniadau.

  • Cynnal cyfrinachedd a chynnal arferion diogelu. 

  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a chyfrannu ynddynt.

 

Manyleb yr Unigolyn

​

Hanfodol:

  • Profiad o weithio yn y sector elusennol, cymunedol neu anabledd.

  • Profiad o weithio mewn rôl derbynnydd, gweinyddol, neu rôl sy'n ymwneud â chwsmeriaid.

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig. 

  • Gallu defnyddio Outlook, Calendrau, a meddalwedd Microsoft 365 yn hyderus.

  • Gwybodaeth am reoli cronfeydd data a’i swyddogaethau.

  • Trefnus, dibynadwy, a gallu rheoli nifer o dasgau ar adegau pan fo’r gwasanaeth yn brysur.

  • Ymrwymiad i fod yn gynhwysol ac ymgysylltu'n barchus â phawb.

  • Y gallu i fod yn bwyllog ac yn broffesiynol mewn amgylchedd prysur.

 

 

Dymunol:

  • Diddordeb mewn seiclo, chwaraeon cynhwysol, neu deithio llesol.

  • Dealltwriaeth sylfaenol o faterion diogelu, a diogelu data.

  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf

  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch.

  • Gwybodaeth am Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu sgiliau amlieithog.

  • Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu 

 

Gallwn Ni Gynnig

  • Amgylchedd gwaith croesawgar sy'n seiliedig ar werthoedd.

  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.

  • Gostyngiadau i staff ar logi beiciau a gwasanaethau.

  • Cofrestru mewn cynllun beicio i'r gwaith.

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned leol, gan arwain tîm deinamig a chyfrannu at genhadaeth Pedal Power o wneud seiclo yn hygyrch i bawb. Os ydych chi'n angerddol am seiclo ac am weithio mewn rôl werth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

​

Gwnewch gais nawr

Mae Pedal Power wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae’n croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a gallu.  

Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio, rhowch wybod i ni ar bob cyfrif.

Cliciwch yma i gael ffurflen gais neu cysylltwch â ni drwy e-bostio jobs@cardiffpedalpower.org.uk i gael rhagor o wybodaeth. Amlinellwch eich profiad ar y ffurflen gais a pham yr ydych am wneud cais am y rôl hon.  

Swyddi Gwag

bottom of page