top of page
Telerau ac Amodau - gyfer Llogi Beiciau
gan Pedal Power

Mae’r cytundeb hwn rhwng y “Llogwr” y mae eu manylion wedi’u nodi isod, a’r “Huriwr” sef “Friends of Pedal Power Project Ltd” sy'n gweithredu ar sail nid-er-elw, ac a elwir yn “Pedal Power” o hyn ymlaen.
  • Mae pob aelod wedi cytuno â'n Telerau ac Amodau yn rhan o'u haelodaeth
  • Rhaid i'r Llogwr fod yn 18 oed neu'n hÅ·n

Cyfrifoldebau Hurwyr Unigol
 
  • Mae’r Llogwr yn cytuno i ofalu am y beic(iau) a’r cyfarpar pan maent yn ei feddiant ac yn cytuno i beidio â defnyddio’r beic ac eithrio at y diben a fwriadwyd.
  • Bydd yn rhaid i Logwyr dalu’n llawn am unrhyw atgyweiriadau i feiciau sy'n cael eu dychwelyd wedi'u difrodi, ac eithrio difrod sydd o ganlyniad i ddefnydd a thraul.
  • Bydd yn rhaid i’r Llogwr dalu cost manwerthu llawn beiciau sy'n cael eu colli, eu difrodi y tu hwnt i faint y byddai’n ei gostio i’w trwsio, neu eu dwyn pan yn ei feddiant.
  • Mae’r Llogwr yn cytuno i roi gwybod am unrhyw waith trwsio neu anaf sy'n gysylltiedig â defnyddio unrhyw feic(iau) neu gyfarpar yn ei feddiant erbyn diwedd y cyfnod llogi fan bellaf.
  • Mae’r Llogwr yn cytuno i roi gwybod i Pedal Power ar unwaith am unrhyw feic(iau) sy’n cael eu colli neu’n torri tra yn ei feddiant neu ei reolaeth.
  • Bydd y Llogwr yn cytuno ac yn cydnabod ei fod yn fodlon bod y beic(iau)/cyfarpar y maent yn eu llogi yn gwbl addas i’r diben a’i fod yn gwbl fodlon â chyflwr y beic(iau)/cyfarpar ar ddechrau’r cyfnod llogi.
  • Mae’r Llogwr yn gwarantu bod pawb yn y grŵp yn gymwys i seiclo ac yn cymryd cyfrifoldeb llawn am wneud yn siŵr bod y beiciau y maent wedi’u llogi yn cael eu defnyddio a’u gweithredu’n ddiogel. (Mae ein proses asesu yn fodd o wneud yn siŵr bod y beic yn cyfateb i lefel y gallu).
  • Mae’r Llogwr yn cytuno i ymddwyn yn gyfrifol tuag at eraill a'r amgylchedd pan mae’n gyfrifol am y beic.
  • Y Llogwr sydd â chyfrifoldeb personol am unrhyw hawliadau a wneir yn ei erbyn o ganlyniad i ddefnyddio neu gamddefnyddio'r beici(au) llogi tra yn ei feddiant neu ei reolaeth.
  • Mae'r Llogwr yn deall pwysigrwydd helmed seiclo a’r goblygiadau o beidio â gwisgo helmed.

Cyfrifoldebau Pedal Power
​
  • Rhoi cyfarpar a beiciau sy'n addas i'r diben i'r Llogwr.
  • Gwneud yn siŵr bod canllawiau ar seiclo diogel ar gael.
  • Datganiad GDPR - trwy lofnodi’r cytundeb hwn, rydych yn ymrwymo i gontract gyda Pedal Power sy’n galluogi’r elusen i gadw a phrosesu eich data o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
​
bottom of page