top of page

Maniffesto Pedal Power 2021

Pedal Power yw'r elusen feicio gynhwysol fwyaf a hynaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae gennym 1,600 o aelodau, gyda’r rhanfwyaf ohonynt yn nodi eu bod yn anabl. Mae gennym ddau safle yng Nghaerdydd, ym Mhontcanna a Bae Caerdydd. Cyn y pandemig fe wnaethom dderbyn tair gwobr – Gwobr Iechyd a Lles Cardiff Life, Gwobr Arian Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a Chaffi Beiciwr y Flwyddyn Cycling UK.

 

Yr Her

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae gan un o bob pump o bobl yng Nghymru a Lloegr anabledd ac mae pobl anabl yn llawer mwy tebygol o gael problemau iechyd gan eu bod ddwywaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl i fod yn anactif yn gorfforol ac yn fwy tebygol o deimlo’n ynysig yn gymdeithasol. Mae anweithgarwch ac allgáu cymdeithasol yn niweidio iechyd corfforol a meddyliol pobl, sydd yn ei dro yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG. Mae nifer fawr o bobl anabl yn oedrannus, felly mae mwy o berygl iddynt ddatblygu cyflyrau iechyd ac mae disgwyl i nifer y bobl 65+ gynyddu. Gall beicio wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn ond mae llawer o bobl anabl a hÅ·n yn gwynebu rhwystrau i feicio.

 

Yr Ateb

Yma yn Pedal Power rydyn ni'n gweld beicio yn wahanol. Trwy ein profiad, ein harbenigedd a'n hoffer, rydym yn bwriadu cael gwared ar y rhwystrau i feicio a’i wneud yn wirioneddol gynhwysol – rydym yn credu y dylai beicio fod ar gyfer pawb, pob oedran a phob gallu.

Yn ystod y pandemig diweddar ac mewn byd wedi’r pandemig Covid 19 mae ymarfer corff yn rheolaidd a gwario amser y tu allan yn fuddiol iawn i iechyd meddwl a chorfforol. Felly, mae'n hanfodol bod PAWB yn cael cyfle i feicio.

Yn y cyd-destun hwn, rydym yn gofyn i’n gwleidyddion a'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am y canlynol:

 

Y Gofynion

  • Ymrwymiad i wneud beicio yn wirioneddol hygyrch a chynhwysol - gan ddefnyddio iaith a delweddaeth yn glir, yn onest a gyda bwriad gywir.

  • Cydnabod bod beicio cynhwysol yn ganolog i gyflawni targedau iechyd ac allyriadau carbon mawr mewn polisïau trafnidiaeth, yr amgylchedd ac iechyd.

  • Ymgorffori beicio cynhwysol yn ystod cam dylunio'r holl isadeiledd ac NID fel ôl-ystyriaeth e.e. llwybrau beicio sy'n addas ar gyfer beiciau ansafonol (digon llydan, wyneb llyfn, dim rhwystrau).

  • Ymrwymiad i sicrhau bod gan gyfleusterau parcio a storio beiciau lefydd wedi’u dyrannu ar gyfer beicwyr anabl a beiciau ansafonol.

  • Beicio cynhwysol i fod yn rhan o strategaeth ehangach y llywodraeth ar deithio llesol i bobl anabl a fyddai'n helpu i wyrdroi'r anweithgarwch ac unigedd cymdeithasol.

  • Ymrwymiad i ddatblygu hybiau beicio cynhwysol ledled Cymru.

  • Cynnwys sefydliadau, fel Pedal Power, sy'n darparu beicio cynhwysol, mewn pecynnau cymorth ariannol sy'n hyrwyddo teithio llesol.

  • Cysoni rheolau TAW ar gyfer cymhorthion symudedd fel bod beiciau sy’n cael eu defnyddio gan bobl anabl at y diben hwn yn cael eu cynnwys

  • Hyrwyddo beicio cynhwysol i bawb e.e. ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus fel beicio a mentrau teithio llesol i hyrwyddo cynhwysiant pobl anabl a phobl hÅ·n.

  • Camau gweithredu i sicrhau bod beicio cynhwysol yn cael ei argymell yn gymdeithasol gan y GIG mewn partneriaeth â sefydliadau lleol sy'n darparu hybiau beicio cynhwysol.

  • Gan fod beicio yn cael ei werthfawrogi fel sgil bywyd, ymrwymiad i gynnwys anghenion POB plentyn fel rhan o fentrau ysgolion a rhaglenni addysgu i sicrhau bod beicio cynhwysol yn rhan gynhenid o'r holl fentrau beicio.

 

Yn ystod cyfnod yr argyfwng - economaidd, amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus - gall beicio wella bywydau llawer o bobl anabl a hÅ·n yn ogystal â'r amgylchedd. Mae Pedal Power yn credu ei bod o fudd i bawb - pobl anabl, y llywodraeth, awdurdodau lleol, y GIG a'r gymdeithas gyfan - bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod beicio mor gynhwysol â phosib.

​

​

bottom of page