top of page
Reidiau Wythnosol Hamddenol a
Chyfeillgar i Grwpiau

Rydym yn cynnig reidiau byr o gwmpas y parc o'n safle ym Mhontcanna. Mae'r reidiau hyn i grwpiau yn rhai hamddenol, yn ddi-draffig i raddau helaeth, ac yn amrywio o gylch milltir o hyd i reidiau hirach i Barc Hailey a thu hwnt. Gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo'r reidiau hyn, felly gallai trefniadau newid ar fyr rybudd yn dibynnu ar bwy sydd ar gael. Cysylltwch â Hilary neu Steve ymlaen llaw os hoffech chi ymuno ag un o'r reidiau.

​

Mae reidiau yn costio £2 y sesiwn neu'n rhad ac am ddim os ydych yn aelod. Cadwch le ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu ein teithiau i grwpiau, cysylltwch â Hilary neu ewch i'n tudalen am wirfoddoli ar wefan Pedal Power

​

Grwpiau Hilary

​

Bob dydd Mawrth a dydd Gwener​

​

Cysylltwch â Hilary i gael rhagor o fanylion ac i ymuno ag unrhyw un o’r reidiau hyn drwy ffonio 07895 533848, neu e-bostiwch training@cardiffpedalpower.org.uk

​

Grwpiau Steve

​

Bob amser cinio dydd Mercher - Magu Hyder

​

Bob yn ail ddydd Sadwrn 11.00am - Teithiau Tandem i Bobl sy'n Colli eu Golwg

 

Cysylltwch â Steve i ymuno â’r reidiau hyn drwy ffonio 02030078200, neu

e-bostiwch cyclingofficer@cardiffpedalpower.org.uk

​​

bottom of page