top of page

Gwirfoddoli gyda ni

​

Mae cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd, cael profiad gwaith a magu hyder, helpu pobl anabl i seiclo a gwybod eich bod yn rhan o sefydliad anhygoel, ymhlith rhai o’r rhesymau pam y dylech ystyried gwirfoddoli gyda ni! Os hoffech chi drafod y posibilrwydd o wirfoddoli gyda ni, ebostiwch volunteer@cardiffpedalpower.org.uk neu gwnewch gais drwy ddefnyddio'r botwm isod.

​

 

Sut i wirfoddoli

​

Gwirfoddolwyr Llogi Beiciau

Byddwch yn gwneud yn siŵr bod y beiciau’n ddiogel ac yn barod i'w llogi, ac yn helpu seiclwyr i fynd ar y beiciau. Mae cyfleoedd ar gael ar safleoedd Pontcanna a Bae Caerdydd.

 

Arweinwyr Teithiau Seiclo

Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n mwynhau helpu pobl i ddod yn seiclwyr hyderus a dangos ein dinas fendigedig iddyn nhw, dewch i gynorthwyo ein teithiau seiclo rheolaidd.

 

Caffi

Rhowch help llaw yn ein caffi - delio â chwsmeriaid, gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol a bod croeso iddyn nhw, clirio byrddau ac ati.

 

Safle Bae Caerdydd

Gallwch gynorthwyo yn ein safle prysur ym Mae Caerdydd i helpu i logi beiciau i'r cyhoedd.
 

Gwirfoddoli a Gefnogir gan Gyflogwyr

I gyflogwyr busnes a'r sector cyhoeddus sydd am wneud gwahaniaeth naill ai fel unigolion neu mewn timau.

 

​

bottom of page