top of page
 
Awydd seiclo? Rydyn ni yma i’ch helpu!
 
Mae seiclo am fod yn rhan bwysig o'n dyfodol yn ôl pob tebyg, felly mae'n werth dysgu sut i seiclo'n gywir! Mae gennym ni dros 20 mlynedd o brofiad o helpu pobl i seiclo. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran a gallu, a'n nod yw cael gwared ar y rhwystrau fel bod pawb yn gallu mwynhau'r llu o fanteision a gynigir gan seiclo.
​
Dydych chi byth yn rhy hen i seiclo

Mae llu o resymau gwych dros ddechrau seiclo, a da chi, peidiwch byth â meddwl eich bod wedi colli'ch cyfle! Rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant seiclo, gan gynnwys dysgu sut i seiclo, magu hyder a theithiau i grwpiau. Mae gennym hefyd ystod eang o feiciau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu diwallu eich anghenion unigol.

2021-03-25_15-33-24__DSC6379 (2) revised.jpg

Byw gydag amhariadau ac anableddau

Ein nod yw rhoi’r cyfle i bawb fwynhau manteision seiclo ac mae ein haelodaeth yn cynnwys asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr bod pawb yn defnyddio'r beic mwyaf addas (mae gennym dros 60 o feiciau addasol yn ogystal ag ystod eang o ategolion). Mae gennym hefyd declyn codi (hoist) ar y safle os oes angen.

​

Plant

Byddwn yn gwneud popeth posibl i alluogi eich plentyn i fwynhau manteision seiclo o oedran ifanc. Rydym yn cynnig asesiadau i blant ag anableddau o bob oed, a bydd ein swyddog seiclo plant yn asesu pa feic sy'n addas ac a oes angen addasiadau a/neu wersi ychwanegol. Rydym hefyd yn cynnig gwersi dysgu sut i seiclo i bob plentyn o 8 oed. Mae adnoddau gwych ar gael ar-lein hefyd i’ch helpu chi i addysgu’ch plentyn i seiclo, fel  https://www.cyclinguk.org/guide/teach-child-ride-bike

​

Salwch ac anafiadau

Gall salwch ac anafiadau newid eich anghenion seiclo dros nos. Drwy ddefnyddio ein hystod eang o feiciau, treiciau ac ategolion, ein nod yw diwallu'r anghenion hynny, a gellir eu haddasu wrth i'r anghenion hynny newid. Mae ein haelodaeth yn cynnwys asesiad cychwynnol yn ogystal ag asesiadau rheolaidd a pharhaus fel bod modd newid eich beic a'ch ategolion i gyd-fynd â'ch anghenion.

​

​

generations photo 1.jpg
bottom of page