
Call us on 02920 390713
Email us at bookings@cardiffpedalpower.org.uk
​
Find us using WHAT3WORDS
Dewch i Seiclo:
Hyfforddiant sgiliau seiclo i blant a phobl o bob oed a gallu
​
Beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, gallwn ni eich helpu chi i seiclo. P'un a ydych chi'n dysgu sut i seiclo am y tro cyntaf, neu'n seiclo’n rheolaidd ac yn awyddus i wella'ch sgiliau, gall Pedal Power eich helpu ar eich taith.
Gallwn ni addasu eich hyfforddiant i gyd-fynd â'r hyn rydych chi am ei gyflawni, gan symud ymlaen ar gyflymder sy’n addas i chi. Gallwn ni ddarparu beiciau, o rai dwy olwyn i feiciau a threiciau wedi'u haddasu, neu gallwch ddefnyddio'ch beic eich hun. Mae ein holl hyfforddwyr wedi'u cymhwyso i gyflwyno hyfforddiant seiclo Safon Genedlaethol a Bikeability.
Os oes gennych chi anabledd, rydym yn argymell eich bod yn dod am asesiad i'n galluogi ni i ddewis y beic neu'r treic a'r ategolion mwyaf addas ar eich cyfer chi. Cewch chi wybod sut i drefnu asesiad yma.
​
Mae manylion yr holl sesiynau hyfforddi wedi'u rhestru isod​​​​​​​​​​​
Hyfforddiant i Unigolion a Theuluoedd

Dysgwch hanfodion cydbwyso, dechrau, stopio a llywio. Rydym yn cynnig sesiynau dysgu seiclo unigol i oedolion a phlant. Rhaid i blant fod o leiaf 5 oed. Nid oes terfyn oedran i oedolion!
​
Dysgu Seiclo

%20Rusty%201_JPG.jpg)
Awyddus i fynd yn ôl ar eich beic? P’un a oes 6 mis neu 60 mlynedd ers y tro diwethaf i chi seiclo, bydd eich hyfforddwr cefnogol yn gweithio gyda chi, un i un, ac ar gyflymder sy’n addas i chi.
Dychwelyd i Seiclo
.jpg)

Sgiliau Seiclo Sylfaenol
Ewch ati i fagu hyder yn eich sgiliau rheoli drwy gael arweiniad gan eich hyfforddwr. Dysgwch sut i seiclo ag un llaw er mwyn rhoi arwydd, edrych y tu ôl i chi heb golli cydbwysedd, newid gêr yn ddiffwdan, a gallu stopio'n gyflym. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal i ffwrdd o’r ffordd fawr wrth i chi ddatblygu'r sgiliau hyn, a phan fyddwch yn barod, gallwch symud yn eich blaen i ffyrdd tawel (os seiclo ar y ffordd fawr yw eich nod). Rhaid i chi allu seiclo heb gymorth.
%20Basic_JPG.jpg)
Basic Cycle Skills

Advanced Cycle Skills


Electric Cycle Skills
Advanced Cycle Skills
Mireiniwch eich technegau seiclo o ran lleoli eich hun ar y ffordd fawr, gwella ymwybyddiaeth a chyfathrebu, a chael adborth ar eich sgiliau ar y ffordd fawr. Cewch chi ymarfer sut i ymdopi â chyffyrdd cymhleth a thraffig trwm. Gallwch chi ystyried cyngor ar lwybrau penodol gyda'ch hyfforddwr Bydd yn gyfle hefyd i gadarnhau strategaethau ar gyfer seiclo'n effeithiol ac yn effeithlon. Rhaid bod gennych reolaeth dda ar eich beic ac wedi cael rhywfaint o brofiad o seiclo ar y ffordd fawr.
Sgiliau Seiclo Uwch


Hyfforddiant Sgiliau Sylfaenol, Trefol ac Uwch ar feiciau trydan. Rhowch gynnig ar feic trydan neu e-dreic o'n fflyd, neu mae croeso i chi ddefnyddio eich un eich hun.
​Cewch hyd i ragor o wybodaeth am feiciau trydan yma

Sgiliau Seiclo Trydan

Ewch ati i ymarfer eich sgiliau yn seiclo beic cargo neu e-cargo. Byddwch chi'n dechrau i ffwrdd o’r ffordd fawr i fireinio'ch technegau. Bydd hyfforddiant ar y ffordd fawr yn rhoi'r hyder i chi gario plant, anifeiliaid anwes, siopa neu nwyddau danfon. Rhaid bod gennych chi reolaeth dda eisoes wrth seiclo.

Sgiliau Seiclo Beiciau Cargo ac E-Cargo

Dysgwch sut i seiclo’n hyderus a mwynhau fel teulu. Byddwch chi'n dechrau arni i ffwrdd o’r ffordd fawr i ymarfer sgiliau sylfaenol, gan symud ymlaen i seiclo ar y ffordd fawr pan fyddwch chi'n barod. Mae hyfforddiant wedi'i deilwra i bob grŵp o deulu. Gallech chi wneud y daith i’r ysgol ar eich beic neu ymarfer taith gyda’ch hyfforddwr.
Sgiliau Seiclo i Deuluoedd

%20Teens_%201JPG_JPG.jpg)
Mae ein sesiynau Dysgu Seiclo, Sylfaenol, Trefol, Uwch ac i Deuluoedd i gyd yn addas i bobl ifanc, naill ai'n unigol, mewn parau neu mewn grwpiau bach.
Sgiliau Seiclo i Bobl Ifanc yn eu Harddegau
%20Teens%202_JPG.jpg)
Hyfforddiant i Grwpiau o Blant
Basic Cycle Skills

Sesiynau i grwpiau o blant i ddysgu sut i gydbwyso heb sefydlogwyr (stabilisers), a symud ymlaen i bedalau pan fyddant yn barod.
Dysgu Seiclo – Dechrau arni


Sesiynau i grwpiau o blant i wella eu sgiliau rheoli beiciau drwy weithgareddau llawn hwyl a gemau.
Rhaid i’r plant fod eisoes yn gallu seiclo heb gefnogaeth na sefydlogwyr.
​​
Wedi'i alinio a Bikeability Lefel 1
Gwella

Basic Cycle Skills

Cyrsiau i grwpiau o blant i'w cyflwyno i seiclo ar y ffordd fawr. Rhaid i’r plant fod eisoes yn gallu seiclo’n hyderus heb gefnogaeth na sefydlogwyr. Rhaid i blant fod o leiaf 9 oed.
​​​
Cyflwyniad i Seiclo ar y Ffordd Fawr
%20Child%20group%20IRR_JPG.jpg)