top of page

Pwy sydd angen eu hasesu?

 

Os ydych yn meddwl y gallai fod angen un o'n beiciau sydd wedi’u haddasu’n arbennig arnoch chi i seiclo'n gyfforddus ac yn ddiogel, dylech chi drefnu asesiad. Gall anghenion cymorth ymwneud ag anabledd dysgu, amhariad corfforol neu anhawster o ran cydbwyso a chydsymud.

Os oes gennych chi anghenion cymorth, bydd angen i chi gael eich asesu yn ôl pob tebyg cyn y gallwch logi ein beiciau. Mae hyn yn ein helpu i ddewis y beic gorau ar gyfer eich anghenion.

​

​

​

Archebwch eich asesiad ymlaen llaw trwy gwblhau ein Ffurflen Gais Asesu.

​

Neu e-bost bookings@cardiffpedalpower.org.uk neu ffoniwch 02920 390713.

 

Sut mae asesiad yn cael ei gynnal?

 

Bydd yr asesiad yn cymryd 30-60 munud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer, a byddwn yn gofyn i chi am eich nodau seiclo yn ogystal â’ch nodau iechyd a lles er mwyn i ni allu dewis y beic a'r ategolion gorau i chi roi cynnig arnyn nhw.

 

Beth sy'n digwydd ar ôl yr asesiad?

​

Os ydych chi'n aelod, byddwn yn cofnodi’r argymhellion ar ein cronfa ddata fel ein bod ni'n gwybod pa feic ac offer sydd eu hangen arnoch chi tro y byddwch chi'n dod atom.

​

Beth os nad ydw i'n anabl ond heb seiclo ers peth amser?

​

Os nad oes gennych chi anghenion cymorth penodol ond mae peth amser wedi bod ers i chi seiclo ddiwethaf, byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i drefnu gwers. Bydd y wers yn canolbwyntio ar adennill eich hyder i seiclo.

 

Beth os ydw i eisoes yn gallu seiclo’n dda?

​

Os ydych chi eisoes yn gallu seiclo ac nid oes gennych chi unrhyw anghenion cymorth, gallwch logi beic heb fod angen asesiad.

 

 

​

​

​

​

​

bottom of page