top of page
Reidiwch E-Feic a Seiclo mewn Ffordd Wahanol!

Yn Pedal Power, ein prif nod craidd yw cael gwared ar y rhwystrau sy’n gallu atal pobl rhag seiclo. Hyrwyddo'r defnydd o E-Feiciau yw un o'n prif ffyrdd o wneud hyn gan eu bod yn galluogi ac yn hwyluso seiclo mewn sawl ffordd. Gyda chymorth ariannol hanfodol Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu ychwanegu 35 o feiciau at ein hystod o E-feiciau a Threiciau. Gallwn nawr gynnig dewis mawr ac amrywiol o dreiciau safonol 2-olwyn ac addasol i'n cwsmeriaid a'n grwpiau cymunedol sy'n diwallu ystod enfawr o anghenion.

Pam defnyddio E-Feic?
Gallwn eich helpu ar eich taith E-Feic...
​
  • Dewch i logi E-Feic gennym ni (am awr neu am nifer o wythnosau)!
  • Rhowch gynnig ar wahanol E-Feiciau cyn ymrwymo i brynu
  • Cymerwch ran mewn gwers neu ymunwch â grŵp i fagu hyder i seiclo
  • Prynwch drwy Pedal Power - ni yw'r gwerthwr mwyaf yng Nghymru ar gyfer E-Feiciau addasol

Mae E-Feiciau yn newid arwyddocaol - o gymharu â ‘beiciau gwthio’ arferol, maen nhw’n galluogi llawer mwy o bobl i seiclo. Mae hyn oherwydd y nodwedd 'hwb' ysgafn, y dyluniad hyblyg a’r ffaith eu bod yn gallu cario mwy o bwysau.

​

  • Yn aml, mae hyn yn galluogi pobl ag anableddau i seiclo pan na fydden nhw’n gallu gwneud hynny fel arall (mae gennym hyd yn oed feic sy’n gallu cario cadair olwyn drydan)

  • I eraill, maen nhw’n ddewis amgen ymarferol a deniadol i ddefnyddio car - gan roi’r dewis i gario plant neu lwythi trwm eraill, mynd ymhellach, mynd ar lwybrau sy’n cynnwys bryniau, a seiclo’n hyderus hyd yn oed pan mae’r gwynt yn eich erbyn!

  • Beth bynnag fo'r angen, maen nhw'n ein helpu ni i gael mwy o bobl i seiclo - gwyliwch y fideos isod i weld a chlywed sut mae pobl yn elwa o E-Feiciau drwy Pedal Power.

​

Pam reidio E-Feic?
Beth yw E-Feic?
E-Feiciau yn Pedal Power
Gwyliwch a gwrandewch - cwsmeriaid hapus sy'n defnyddio ein E-Feiciau yn rheolaidd
Bernard a Michelle
Aelod Staff - Darren
Joe a Daniel
Nasim a Shagufta
bottom of page