Call us on 02920 390713
Email us at bookings@cardiffpedalpower.org.uk
​
Find us using WHAT3WORDS
Seiclo i Bawb Pedal Power 2024
Dydd Sadwrn 8 Mehefin
Seiclo i Bawb yw ein digwyddiad seiclo blynyddol ac mae croeso i bawb ymuno a chymryd rhan! Y llynedd daeth tua 150 o bobl o bob gallu i seiclo gyda ni, a gobeithiwn y bydd hyd yn oed mwy eleni. Mae croeso i chi reidio eich beic eich hun, neu logi un o'n beiciau ni.
​
​
​
Cofrestrwch i gymryd rhan fel bod gennym syniad o rifau. Os ydych hefyd yn llogi beic oddi wrthym ni archebwch ef nawr gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein (mae aelodau Pedal Power yn cael eu llogi am ddim)!
​
​
Seiclo i Bawb 2023
Beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod...
​Byddwn yn cadw at fwy neu lai yr un fformat eto eleni, felly os ydych chi wedi cymryd rhan o'r blaen, byddwch chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Byddwn yn cyhoeddi'r llwybr sydd gennym mewn golwg ar gyfer y daith cyn bo hir!
​
-
Byddwn yn seiclo beth bynnag fo'r tywydd (fel y gwelwch yn y lluniau o'r digwyddiad yn 2023 a 2022)!
-
Bydd y reid yn dechrau ac yn gorffen ym Mhencadlys Pedal Power ym Maes Carafannau Caerdydd
-
Dechrau am 11am
-
Os ydych chi am ddefnyddio un o'n beiciau ni, byddem yn ddiolchgar pe gallech gyrraedd o leiaf hanner awr cyn i'r reid ddechrau er mwyn i ni allu cael pawb yn barod i fynd.
-
Bydd dau lwybr er mwyn i bawb allu ymuno:
-
Reid hygyrch mewn parc fydd tua hanner awr o hyd ac ar gyflymder arafach
-
Llwybr hirach trwy'r ddinas a'r Bae fydd yn para tua awr a hanner
-
​
-
Bydd lluniaeth ar gael yn rhad ac am ddim yn ein caffi ar y diwedd