top of page

Prosiect Ysgolion y Principality

Ym mis Ebrill 2023 roeddem yn falch iawn o gael cyllid y mae angen mawr amdano gan Gronfa Gymunedol Cymru y Principality. Mae’n ein galluogi i ymestyn ymhellach a chydweithio ag ysgolion anghenion arbennig ar draws Caerdydd a’r cyffiniau fel bod plant ag ystod eang o anableddau seiclo yn cael y cyfle i fwynhau seiclo a’r manteision lu a ddaw yn sgil hynny.

​

Dechreuodd y Swyddogion Seiclo, Rob a Steven, weithio gyda disgyblion o Ysgolion TÅ· Gwyn a Woodlands ym mis Mehefin, ac ymunodd Ysgol y Deri ac Ysgol Trinity Fields â’r prosiect ym mis Medi. Cyllid am gyfnod o flwyddyn oedd hwn, felly daeth y sesiynau i ben ym mis Tachwedd. Fe wnaeth dros 350 o blant elwa ar y cyfle gwych hwn yn ystod y cyfnod o dan sylw, ac rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan y plant, y staff a’r rhieni. Gyda lwc, byddwn yn gallu cynnal y prosiect eto yn 2024!

​

I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch Rob/Steven: childrenofficer@cardiffpedalpower.org.uk

CFW-Brand-F1 (2).jpg
schools4.JPG
Rob & Steven.jpg

Gan ddefnyddio ein dewis enfawr o feiciau addasol, yn ogystal â'n profiad o weithio gyda phlant ag anableddau, rydym wedi llwyddo i oresgyn llawer o'r rhwystrau a fyddai fel arfer yn atal y plant hyn rhag seiclo. Rydym yn gweithio gyda 15-30 o blant ar y tro i wneud yn siŵr ein bod yn teilwra pob ymweliad i anghenion penodol yr ysgol a’r disgyblion.

 

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gweithio gyda chynifer o blant - dros 350 - pob un yn unigolyn ag anghenion unigol. Ac rydym ni wedi cael adborth anhygoel gan yr ysgolion sy’n dangos faint mae'r sesiynau hyn yn ei olygu i'r plant a'r staff. Rob a Steve

Ciplun o'r Adborth (mae’r enwau wedi'u newid)

Mae Sam yn edrych ymlaen at fynd i seiclo gyda'i dad ar benwythnosau pan fydd yn gallu seiclo ar feic 2 olwyn heb gymorth

Roedd y sesiynau yn wych i ddosbarth Buttercup - diolch o galon am drefnu!

Erbyn hyn mae Zac yn ymarfer seiclo ar feic 2 olwyn gyda rhywfaint o gymorth oedolyn. Mae ganddo feic 2 olwyn gartref ac mae'n edrych ymlaen at allu ei seiclo gyda'i frodyr a’i chwiorydd

Sesiynau gwych a hygyrch!

Mae wedi galluogi ein disgyblion i fagu hyder ac annibyniaeth

Mae Fin yn edrych ymlaen at Pedal Power ac ar dân eisiau mynd lawr yno a seiclo pan ddaw ei dro ef

Cawson nhw [y rhieni] eu synnu gan faint maen nhw’n gallu pedlo. Roedd mor hyfryd eu gweld yn defnyddio sgil nad oedden nhw’n meddwl oedd o fewn eu gallu

Roedd y gweithgaredd corfforol a wnaeth y disgyblion wrth seiclo o fudd i'w hiechyd a'u lles

schools12.JPG

Mwynhaodd y pedwar disgybl y profiad yn fawr a doedden nhw ddim am i’r sesiwn orffen!

Byddai’n wych pe byddai ein dosbarth yn gallu mynd i Pedal Power yn rheolaidd oherwydd roedd yn wych o ran eu hannog i reoleiddio eu hunain a bod yn annibynnol

Roedd Nan wrth ei bodd yn gweld Manon yn manteisio ar y ddarpariaeth yma ac yn defnyddio beic - rhywbeth nad oedd wedi meddwl fyddai’n bosibl i’w hwyres

Mae gweld y beiciau yn y maes parcio yn eu cyffroi’r fawr. Ar ben hynny, mae’r sesiynau hyn yn helpu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau corfforol a chyfathrebu yn ogystal â deall sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd.

Roedd staff Pedal Power yn hynod gyfeillgar, caredig a gofalgar tuag at y disgyblion, ac fe wnaeth y staff eu helpu i ddod yn gyfarwydd â'r beiciau

bottom of page