top of page

Gwybodaeth i Weithwyr Iechyd a

Gofal Cymdeithasol Proffesiynol

 

Mae cadw’n heini o fudd i bawb, ac mae seiclo yn weithgaredd gwych sy'n hwyl, yn gymdeithasol ac yn dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae seiclo yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob oed a gallu gadw’n heini a mwynhau mannau awyr agored.

​

Rydym yn gwybod bod seiclo yn ffordd effeithiol o gadw pobl yn iach ac mae’n gallu rhoi hwb i les meddyliol, mae hefyd yn lleihau'r risg/o fudd i bobl sy'n byw gyda chlefyd y galon, gordewdra a diabetes math 2. Ar ben hynny, mae’n helpu i gadw’r system gyhyrol-ysgerbydol yn iach.

​

Sut mae Pedal Power yn ceisio cefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol

​

Hoffem gefnogi staff iechyd a gofal cymdeithasol i wella, trin a gofalu am eu cleientiaid a’u cleifion drwy eu helpu i:

​

  • Wella a chynnal lefelau gweithgareddau trwy nodi cyfle ymarferol i gadw’n heini

  • Cynnig lleoliad cymdeithasol a chyfeillgar

  • Gwella lles meddyliol trwy gadw’n heini a bod mewn mannau gwyrdd a naturiol.

 

Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod pob ffordd bosibl y gallwn gefnogi eich gwaith ymhellach. Cysylltwch â’n Cyfarwyddwr, Sian drwy ebostio director@cardiffpedalpower.org.uk i drefnu sgwrs, cyfarfod neu gyflwyniad.

​

Sut gall Pedal Power gefnogi cleientiaid a chleifion

​

Mae Pedal Power yn annog ac yn galluogi plant ac oedolion o bob oed a gallu i fwynhau manteision seiclo. Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar unrhyw rwystrau i seiclo y mae llawer o bobl yn eu hwynebu - credwn yn gryf y gall seiclo fod ar gyfer pawb, pob oed a phob gallu.

​

Mae Pedal Power yn cynnig: 

​

  • Beiciau 2 olwyn i blant ac oedolion

  • Beiciau 2 olwyn cam isel – perffaith i oedolion hÅ·n neu'r rhai sydd â llai o hyblygrwydd

  • E-feiciau ac e-dreiciau (newydd!)

  • Beiciau 3 olwyn i’r rhai sydd â phroblemau o ran symudedd neu gydbwysedd – e.e. gall y rhain helpu i gryfhau cyhyrau ar ôl cael strôc

  • Beiciau llaw – defnyddiol ar ôl anafiadau i'r coesau neu'r traed

  • Beiciau tandem – delfrydol ar gyfer beicwyr â nam ar eu golwg ac i’r rhai sy’n dechrau arni i seiclo gyda chefnogaeth a hyfforddiant

  • Beiciau arbenigol sy'n caniatáu i gynorthwy-ydd eistedd ochr yn ochr neu y tu ôl i'r beiciwr i helpu’r gwaith seiclo

  • Beiciau sy'n gallu cynnwys cadeiriau olwyn

  • Gwersi seiclo i blant ac oedolion o allu ac anabledd amrywiol

  • Sesiynau a reidiau i fagu hyder mewn seiclo

    Teithiau mewn grwpiau a drefnir gan ein gwirfoddolwyr

  •  

    Caffi hygyrch a chroesawgar sydd â thÅ· bach i bobl anabl

  • Gweithdy sy’n gwerthu beiciau arbenigol a gwasanaeth trwsio i gwsmeriaid.

​

Sut i fanteisio ar wasanaethau Pedal Power

​

Nid oes angen i chi gael eich cyfeirio atom ond gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol gysylltu â ni ar ran eu cleientiaid/cleifion neu annog unigolion i gysylltu â ni’n uniongyrchol. Os oes gan unrhyw un anghenion penodol, bydd angen inni gynnal asesiad yn ôl pob tebyg i wneud yn siŵr bod y beic mwyaf priodol yn cael ei ddewis i ddiwallu’r anghenion hyn, a’u bod yn cael profiad seiclo positif a phleserus.

 

Sut i logi beic neu archebu ein gwasanaethau

​

Ffurflen Gais Archebu

​

Ffon: 02920 390713

​

Ebost: bookings@cardiffpedalpower.org.uk

 

Costau

​

Ein nod yw cadw costau mor isel â phosibl ac rydyn yn annog y rhai sy'n mynychu'n rheolaidd i ddod yn aelodau er mwyn elwa ar brisiau is. Ni chodir tâl ar weithwyr cymorth unrhyw aelod.

​

Mae croeso ichi anfon sylwadau, awgrymiadau a diwygiadau mewn cysylltiad â’r wybodaeth hon drwy gysylltu â Sian: director@cardiffpedalpower.org.uk

bottom of page