top of page

Gwybodaeth i Ofalwyr

​

Yma yn Pedal Power, mae gennym brofiad uniongyrchol o'r hyn sydd ei angen i fod yn ofalwr - rydym yn cwrdd â chi bob dydd, ar feiciau, yn y caffi - ac rydym am eich cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn.

​

Llogi Beiciau Am Ddim

​

Ar ôl i aelod gael ei asesu a chael yr ategolion gorau ar gyfer ei feic / treic i gyd-fynd â’i anghenion, mae ein pecyn aelodaeth yn caniatáu i’w ofalwr (os oes angen un arno) seiclo gyda nhw yn RHAD AC AM DDIM. Gyda lwc, bydd hyn yn helpu i wneud ymweliadau mwy rheolaidd yn fforddiadwy.

​

Ein Caffi

​

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw bod mewn cysylltiad â phobl eraill - mae rôl gofalwr yn gallu bod yn un unig ar adegau - felly rydym bob amser yn hapus iawn i'ch croesawu i'n caffi. Dyma rywle lle gallwch deimlo'n gyfforddus a sgwrsio, neu neilltuo amser i chi eich hun, heb unrhyw bwysau i adael neu brynu.

Mae gennym seddi dan do ac awyr agored (wedi'u gorchuddio), yn ogystal â blancedi bach ar adegau oerach. Mae gennym dÅ· bach i bobl anabl ac sy’n addas ar gyfer cadair olwyn - mae croeso ichi symud byrddau a chadeiriau i gyd-fynd â'ch anghenion (neu ofyn am gymorth).

​

Cyngor ac adnoddau eraill

​

Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi, ewch i wefan Dewis, sy’n adnodd ar-lein gwych ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru a allai eich helpu. Mae Care Collective yn cynnig cyngor i ofalwyr di-dâl yn benodol.

​

Byddem hefyd yn eich annog i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael gan Gyngor Caerdydd drwy ymweld â Thudalen Gofalwyr Cyngor Caerdydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am Asesiadau a Budd-daliadau i Ofalwyr.

​

 

​

​

​

​

​

bottom of page