top of page
Prynwch drwy Pedal Power gyda'r Fenter Cymudo Gwyrdd (Green Commute Initiative) i arbed arian
lol.png
  • Mae’r Fenter Cymudo Gwyrdd yn arwain y diwydiant drwy ei chynllun seiclo i’w gwaith heb unrhyw derfynau.

  • GCI scheme participants benefit from no £1,000 spending cap and no scheme exit fees.    Yn wahanol i gynlluniau eraill, nid oes terfyn gwariant o £1,000 i’r rhai cymryd rhan ac ni chodir ffioedd os ydyn nhw’n penderfynu rhoi’r gorau i gymryd rhan yn y cynllun.

  • Gallwch arbed hyd at 47%, yn dibynnu ar eich braced treth.

  • Talwch yn fisol drwy eich cyflog heb dalu unrhyw log ychwanegol.

  • Ewch ati i gael E-feic neu feic confensiynol a helpu i leihau tagfeydd a llygredd, yn ogystal â gwella eich iechyd, ffitrwydd a’ch lles meddyliol.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

​

Cyn belled â'ch bod yn TWE (PAYE) a bod eich cyflogwr yn cytuno i redeg y cynllun, byddwch yn gallu elwa ohono.

 

Sut mae’n gweithio?

Rydym yn darparu'r beic ac unrhyw ategolion i chi. Byddwch yn aberthu rhywfaint o'ch cyflog a, gan nad ydych chi'n talu treth nac YG ar y swm hwn, byddwch yn arbed cryn dipyn o arian. Bydd y swm rydych chi'n ei arbed yn dibynnu ar eich braced treth (gweler y cyfrifiannell isod). Mae'r gost sy'n weddill yn cael ei dalu bob yn dipyn dros 18 mis.

 

A oes terfyn?

Na, does dim terfyn gyda Fenter Cymudo Gwyrdd a dyna pam mae Pedal Power wedi dewis ei defnyddio. Mae hyn yn eich galluogi i fanteisio ar amrywiaeth fawr o feiciau a threiciau rydym yn eu cynnig, a dewis yr un sy'n addas i chi.

​

​

​

​

​

 

Sut ydw i'n gwybod pa dreic i'w brynu?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi i ddod o hyd i'r treic cywir, ffoniwch ni a gallwn ni drefnu asesiad ar eich cyfer i'ch helpu i ddod o hyd i feic sy’n addas i’ch anghenion.

​

Archebu eich beic newydd

Cysylltwch â ni drwy ebost neu dros y ffôn i ofyn inni archebu ar eich rhan, neu mae croeso i chi alw heibio ac archebu'n uniongyrchol. Mae'r holl wneuthurwyr yr ydym yn gweithio gyda nhw yn rhoi eich treic at ei gilydd yn unol â gofynion eich archeb, felly gallai gymryd wythnos neu ddwy cyn y bydd yn barod.

​

Bydd eich treic neu feic newydd yn cael ei gludo’n uniongyrchol i Pedal Power. Bydd ein tîm o fecanics arbenigol yn ei adeiladu i chi heb unrhyw gost ychwanegol - ac rydym hyd yn oed yn cynnig gwiriad rhad ac am ddim ar ôl 6 mis. Pan fydd yn barod, cewch ddod draw i’w gasglu a’i seiclo gan wybod ein bod bob amser yma pe bai angen unrhyw gymorth pellach arnoch chi.

​

bottom of page