top of page

Datganiad Preifatrwydd

Mae data personol a chyfrinachol yn fater y mae Pedal Power Caerdydd yn ei gymryd gwbl o ddifrif. O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, rydym yn cymryd nifer o gamau i wneud yn siŵr ein bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth hon wrth gadw’r holl ddata, bod y data’n cael ei storio’n ddiogel, ac mai dim ond at y dibenion penodol a amlinellir ar yr adeg casglu y caiff y data ei ddefnyddio. Cewch wybod rhagor isod am ba ddata sydd gennym, pam, am ba mor hir y caiff ei storio, a sut rydym yn ei storio, yn ogystal â’ch hawliau a sut i gysylltu â ni ynglÅ·n â’r data sydd gennym amdanoch.

Sut i gysylltu â ni am y data rydym yn ei gadw

Ebostiwch bookings@cardiffpedalpower.org.uk neu ffoniwch 02920 390713

Y data rydym yn ei gadw

Gwybodaeth am aelodau

​

Mae Cardiff Pedal Power yn cadw data am aelodau er mwyn darparu gwasanaethau i aelodau. Mae’r rhain yn cynnwys cynigion i logi beiciau, asesiadau, rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac adnewyddu eu haelodaeth. Yn ogystal, mae gwybodaeth am asesiadau, gan gynnwys data am iechyd a tharddiad ethnig yn cael ei ystyried yn ddata categori arbennig, felly mae’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys orau o dan:

Contract: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennych gyda’r unigolyn, neu oherwydd ei fod wedi gofyn i chi gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract

Ar ben hynny, gan fod Pedal Power Caerdydd yn sefydliad nid-er-elw, Erthygl 9 GDPR sy’n rhoi’r sail gyfreithiol fel bod ‘prosesu yn digwydd yn ystod ei weithgareddau cyfreithlon gyda mesurau diogelu priodol gan sefydliad, cymdeithas neu unrhyw gorff dielw arall sydd â nod gwleidyddol, athronyddol, crefyddol neu undeb llafur, ac ar yr amod bod y prosesu’n ymwneud ag aelodau neu gyn-aelodau’r corff yn unig neu unigolion sy’n dod i gysylltiad â’r sefydliad yn rheolaidd mewn perthynas â’i ddibenion, ac nad yw’r data personol yn cael ei ddatgelu y tu allan i’r corff hwnnw heb ganiatâd gwrthrych y data;’ 

 

Felly, mae gan Pedal Power reswm cyfreithiol dros brosesu a chadw data aelodau.

​

Cofnodion staff a gwirfoddolwyr

 

Cedwir cofnodion staff a gwirfoddolwyr am amrywiaeth o resymau. Er enghraifft, cedwir data am rolau cyflogedig er mwyn i Cardiff Pedal Power allu cyflawni ei rwymedigaethau i dalu staff o dan gontractau staff.

 

Felly, yn dibynnu ar y data, y sail gyfreithiol ganlynol sydd fwyaf addas.

 

Ar gyfer gwybodaeth sy’n seiliedig ar gontractau, contractau staff neu wirfoddolwyr, telerau ac amodau a/neu rolau cyflogedig, ac ati.

 

Contract: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennych gyda’r unigolyn, neu oherwydd ei fod wedi gofyn i chi gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract

 

Dyma'r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data.

 

I gael gwybodaeth am ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau, dibenion treth, dibenion budd-daliadau neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill sydd gan yr elusen am staff neu wirfoddolwyr…

 

Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith (heb gynnwys rhwymedigaethau cytundebol).

 

Dyma'r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data

 

Ar gyfer data arall fel cysylltiadau at ddiben ICE neu farchnata cyffredinol...

 

Caniatâd: mae'r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

 

Dyma'r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data

 

Ar gyfer data mewn perthynas â damweiniau, digwyddiadau, materion cyflogaeth, disgyblaethau ac ati...

 

Buddiannau dilys: mae’r prosesu’n angenrheidiol ar gyfer eich buddiannau dilys chi neu fuddiannau dilys trydydd parti, oni bai bod rheswm da dros amddiffyn data personol yr unigolyn sy’n diystyru’r buddiannau dilys hynny. (Ni all hyn fod yn berthnasol os ydych yn awdurdod cyhoeddus sy’n prosesu data i gyflawni eich tasgau swyddogol.)

 

Dyma’r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data. Mae hyn oherwydd bod y data hwn yn ofynnol ac wedi’i gynnwys o dan erthygl 9 GDPR mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y mae llysoedd yn gweithredu eu swyddogaethau barnwrol;'

​

Gwybodaeth gyffredinol i gwsmeriaid

 

Cedwir gwybodaeth gyffredinol am gwsmeriaid at ddibenion gwneud gwaith i gwsmeriaid, drwy naill ai ddarparu beic yn rhan o gontract llogi neu wneud gwaith trwsio i gwsmeriaid.

Ar ben hynny, gall Cardiff Pedal Power gadw a phrosesu data at ddibenion marchnata. Felly, mae'r sail gyfreithiol ganlynol yn berthnasol. 

 

Ar gyfer data sy'n seiliedig ar gontract, h.y, i ddarparu gwasanaethau trwsio beiciau neu logi beiciau

 

Contract: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract sydd gennych gyda’r unigolyn, neu oherwydd ei fod wedi gofyn i chi gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract

 

Dyma'r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data

 

Ar gyfer data arall fel cysylltiadau at ddiben ICE neu farchnata cyffredinol...

 

Caniatâd: mae'r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

 

Dyma'r sail gyfreithiol fwyaf addas ar gyfer prosesu data

 

Storio data gan drydydd partïon

 

Mae Cardiff Pedal Power yn defnyddio nifer o raglenni TG trydydd parti sy'n cynnwys prosesu data. Gan mai cwmnïau rhyngwladol yw llawer o'r gwasanaethau hyn, rhoddwyd sylw arbennig er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cydymffurfio â GDPR.

 

Pan brynir gwasanaethau newydd, bydd yn rhaid i'r rhain hefyd gydymffurfio â GDPR a bydd angen cwblhau archwiliad o'u cydymffurfiad ym mhob amgylchiad.

Cyfnod cadw data

Dim ond am yr amser a nodir ar adeg casglu’r data y mae Cardiff Pedal Power yn ei gadw (hyd y gwasanaeth, fel arfer). Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau lle mae gofyn i ni ystyried ffactorau eraill (h.y. deddfwriaeth benodol) byddwn yn cadw data ar eu cyfer am gyfnodau hirach.

Eich hawliau

O dan GDPR byddwn yn cydymffurfio â’ch holl hawliau gan gynnwys eich hawl i gael eich hysbysu, hawliau i gael mynediad at y data a’i drosglwyddo, cywiro data, dileu data yn ogystal â gwrthwynebu i ddata gael ei brosesu a chyfyngu ar hynny. I gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn a sut rydych yn eu harfer ewch i wefan ICO. I arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni ba hawl yr hoffech ei harfer a byddwn yn helpu lle bo modd.

Sut i wneud cwyn

Os ydych o’r farn nad ydym yn ymateb yn llawn i gais, cewch gwyno i'r ICO drwy gysylltu â nhw yma

bottom of page