top of page
Dewch draw i ymlacio yn ein caffi
lle mae croeso i bawb

Man croesawgar a diogel i bawb

​

Efallai y byddai 'Cwtch' yn enw gwell i'n caffi oherwydd rydym am iddo fod yn lle diogel, cyfforddus, cynnes a chroesawgar lle gall pawb ddod ynghyd a theimlo bod croeso iddyn nhw ddod yma i ymlacio ymysg ffrindiau. Gallwch aros am faint bynnag o amser heb unrhyw bwysau i brynu.

 

Os oes gennych chi gwestiwn i dîm y caffi, ebostiwch cafe@cardiffpedalpower.org.uk

​

Mae ein bwydlen bob amser yn llysieuol ac yn aml yn fegan. Rydym yn cynnig cawliau cartref blasus, brechdanau, brechdanau crasu a lapiau, yn ogystal â dewis eang o gacennau - wedi'u gwneud yn lleol, coffi ffres a detholiad o de a diodydd oer. Mae gennym hefyd gynigion llysieuol arbennig bob dydd fel pakoras a phyffion caws!

​

Cewch ddewis eistedd y tu mewn neu y tu allan ac ymlacio a mwynhau ein lleoliad hardd a gwyrdd sy'n llawn planhigion a bywyd gwyllt.

​

Mae gennym gerdyn teyrngarwch ar gyfer diodydd poeth - felly mae'r 10fed diod arnom ni!

​

Hygyrchedd

​

Y tu allan mae gennym gasebo i gynnig cysgod rhag heulwen neu law. Y tu mewn, mae ein byrddau yn addas i gadeiriau olwyn ac mae modd aildrefnu ein seddi mewn gwahanol ffyrdd i weddu i'ch grŵp. Ar nodyn ymarferol, mae gennym dÅ· bach i bobl anabl a thai bach ychwanegol. gan gynnwys un sydd â bwrdd newid babanod.

​

Cynnal grwpiau a digwyddiadau

​

Mae digonedd o le yn ein caffi a gellir ei rannu'n ddwy ystafell. Rydym yn hapus iawn i groesawu grwpiau lleol yn rheolaidd a gallwn hefyd gynnal digwyddiadau.

​

Cynnwys y gymuned

​

Yn y man hwn rydyn ni'n arddangos ein Celf yn y Caffi. Mae cynnwys y gymuned yn bwysig iawn i ni felly rydym yn gwahodd artistiaid lleol i arddangos heb godi tâl (derbynnir rhoddion bob amser, wrth gwrs!).

​

Rydym yn agored i syniadau newydd bob amser ac yn hapus i drafod sut y gall gwahanol grwpiau o bobl a Pedal Power gydweithio. Os oes gennych chi awgrymiadau neu sylwadau, anfonwch y rhain atom ar bob cyfrif i’n blwch adborth neu ebostiwch Sian - director@cardiffpedalpower.org.uk

​

​

​

​

bottom of page