top of page
Bwrdd Ymddiriedolwyr Pedal Power

Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr rôl hanfodol o ran llywodraethu a goruchwylio’r elusen. Felly, mae'n bwysig ein bod ni fel tîm yn canolbwyntio ar y cymunedau y mae Pedal Power yn eu gwasanaethu, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu cynrychioli. Mae cryfder a pherthnasedd y tîm yn dibynnu ar amrywiaeth ei aelodau a'r sgiliau, y profiad a'r wybodaeth a gynigir gan bob un ohonyn nhw. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau i ymuno â’r tîm, felly os hoffech chi gael gwybod rhagor am fod yn un o Ymddiriedolwyr Pedal Power, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr, Sian, drwy ebostio director@cardiffpedalpower.org.uk

Peter Harding - Cadeirydd

Rwyf wedi bod yn feiciwr brwd ac yn ymgyrchydd seiclo drwy gydol fy oes. Rwyf wedi bod ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ers 2016 ac yn Gadeirydd ers 2018. Cefais yrfa hir yn y sector cyhoeddus - ym meysydd tai, gwasanaethau cymdeithasol, y celfyddydau ac addysg. Arbenigais mewn Llywodraeth Ranbarthol a Datblygu Polisïau a Strategaethau, yn ddiweddarach fel un o weision sifil Llywodraeth Cymru. Mae gen i brofiad helaeth o’r Trydydd Sector hefyd – rwy’n aelod o Fwrdd Tai Wales and West ac rwy’n agosáu at ddiwedd fy nghyfnod o saith mlynedd fel Trysorydd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange. Rwyf wedi rhedeg dau fusnes llwyddiannus ac mae gennyf Radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

TRUSTEE Steve.jpg

Stephen Cox - Trysorydd

Fe wnes i ymddeol ym mis Ebrill 2023 ar ôl treulio dros 40 mlynedd yn gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol. Yn fwyaf diweddar, bues i’n Brif Weithredwr ar elusen fawr sy’n cynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae gen i gariad at seiclo sy'n mynd yn ôl i fy mhlentyndod ac rwyf wedi bod gyda Pedal Power ers i’r elusen gael ei sefydlu. Mae bod yn Ymddiriedolwr yn rhoi’r cyfle imi rannu fy mhrofiad a fy ngwybodaeth am redeg a rheoli sefydliad mawr, gan gynnwys meysydd Cyllid, Adnoddau Dynol, Strategaethau, a dangos tystiolaeth o ddeilliannau i bobl. Rwyf hefyd wedi gweithio’n agos gydag uwch-staff yn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ym maes datblygu Gwasanaethau a Pholisïau. Mae Pedal Power yn elusen wych sy’n cefnogi pobl, beth bynnag fo’u hanabledd, i fwynhau’r buddion corfforol a seicolegol a ddaw o seiclo a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymuned.

TRUSTEE Pat.jpg

Pat Ruddock

Ers 2012, rwyf wedi bod yn gyfarwyddwr menter fach a llwyddiannus yng Nghaerdydd, yn cyflogi tua 10 o bobl. Rwy’n dod â’r profiad hwnnw i’r bwrdd, yn ogystal â chariad ac ymroddiad gydol oes a di-wyro at seiclo! Fel ymgynghorydd peirianneg strwythurol, rwy’n datrys problemau cymhleth bob dydd, yn ogystal â delio â heriau gweithredol busnes bach. Rwyf hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag eglwys leol fawr ers sawl blwyddyn, gan gynnwys bod yn aelod o’r pwyllgor rheoli eiddo. Mae hyn wedi rhoi profiad ymarferol imi o’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu mudiad elusennol a arweinir gan wirfoddolwyr. Fe wnes i ddod i gysylltiad â Pedal Power am y tro cyntaf yn 2018, drwy wneud taith seiclo noddedig iddyn nhw. Gan fy mod wedi cael diagnosis fy mod yn ddiabetig Math 1 ychydig cyn hynny, roeddwn i’n awyddus i wthio fy hun, a chodi arian at achos oedd yn agos at fy nghalon. Gwnaeth Pedal Power gymaint o argraff arna i, fe wnes i wneud y Felothon ar eu rhan a dod yn un o’u hymddiriedolwyr!

Rwyf wrth fy modd yn seiclo. Roeddwn yn arfer mynd ar deithiau seiclo ar fy mhen fy hun, ond nawr rwy’n seiclo’n amlach er mwyn cymudo, siopa yn yr archfarchnad neu fwynhau'r bryniau lleol. Yn ddiweddar, ymunais â grŵp tandem dan arweiniad peilot Pedal Power ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Mae hon yn ffordd wych o rannu fy hoffter o seiclo â phobl na fydden nhw’n gallu gwneud hynny fel arall. Mae bod yn rhan o Pedal Power yn rhoi cyfleoedd na fyddwn i byth yn eu cael yn unman arall (seiclo ochr yn ochr yn gwisgo mwgwd yng Ngharnifal Bute) ac rwyf wrth fy modd â’r positifrwydd a’r pwyslais ar gynnwys pawb bob amser – hyd yn oed pan mae’n arllwys y glaw!

Edward Evans

Fi yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) Cymru. Rwy’n Beiriannydd Sifil Siartredig ac mae gennyf bron i 30 mlynedd o brofiad o ddarparu ystod eang o wasanaethau technegol a datblygu polisïau ar lefel uchel ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Roeddwn yn arfer bod yn Gadeirydd Bwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd Cadwch Gymru’n Daclus ac yn Ymddiriedolwr mewn elusen leol ar gyfer plant ac oedolion anabl. Cefais fy ngeni a'm magu yng Ngwynedd ac rwy'n parhau i fod yn bartner mewn busnes ffermio teuluol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rydw i wedi byw yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd gyda fy ngwraig a 3 o blant, ac rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl.

TRUSTEE Mike Walsh.jpg

​Michael Walsh

Rwy’n Rheolwr Rhaglenni i Gymdeithas Adeiladu’r Principality, lle’r wyf wedi gweithio ers 2017. O ganlyniad i flynyddoedd lawer o reoli mentrau sydd wedi trawsffurfio a newid, mae gen i brofiad helaeth o reoli prosiectau, ail-lunio prosesau busnes, arwain timau a rheoli cyllidebau. Rwyf hefyd yn gyfrifydd cymwysedig. Rwyf wedi cael y pleser o fod yn aelod o fwrdd Pedal Power ers 2007, ac rwy’n parhau i fod yn hynod angerddol am yr elusen, ei phwrpas a'i chyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

TRUSTEE Malcolm1.jpeg

Yr Athro Malcolm Eames

Roeddwn yn arfer gweithio yn y byd academaidd ac yn y Trydydd Sector. Yn fwyaf diweddar, roeddwn yn Gadeirydd Ymchwil Carbon Isel ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.  Yn ogystal â meddu ar wybodaeth ac arbenigedd penodol ym maes cynaliadwyedd trefol, mae gennyf brofiad o fod wrth y llyw wrth ddatblygu a chyflwyno prosiectau cydweithredol mawr dros nifer o flynyddoedd yn llwyddiannus gyda byd diwydiant a phartneriaid yn y llywodraeth gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Defra a Chyngor Caerdydd.

Naomi Brightmore

Treuliais 28 mlynedd yn y sector preifat yn Rheolwr Prosiectau neu Raglenni ar gyfer prosiectau TG yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant a phrofiad ym mhob agwedd ar gynllunio a datblygu prosiectau a chylch bywyd gweithredu, yn ogystal â rheoli pobl a chyllid. Rwyf hefyd wedi rheoli prosiectau i gwsmeriaid yn y sector cyhoeddus - llywodraeth ganolog, ddatganoledig a lleol. Ers wyth mlynedd, rwyf wedi rheoli dau sefydliad yn y trydydd sector, gan gynnwys pob agwedd ar reolaeth ariannol, cynnal ffynonellau cyllid, AD, a rhoi gwasanaethau i gleientiaid sy’n agored i niwed.

Pam Pedal Power? Roeddwn i'n arfer seiclo i'r gwaith bron bob dydd ac roeddwn i'n aml yn gweld pobl yn defnyddio beiciau neu dreiciau Pedal Power. Wrth eu gweld, y hyn oedd fy nharo bob tro oedd yr olwg hapus ar eu hwynebau! Penderfynais y byddwn i'n gwirfoddoli gyda nhw ar ôl i mi ymddeol, felly dyna wnes i. Ar y dechrau, roeddwn yn helpu i arwain reidiau ac wedi hynny roeddwn yn gynorthwy-ydd gweithredol ac yn helpu pobl i fynd ar y beiciau a’u reidio. Roeddwn wrth fy modd, a buan iawn y dechreuais deimlo’n angerddol am y sefydliad, ei weledigaeth a'i ethos. Gan deimlo y gallai fy mhrofiad blaenorol fod yn ddefnyddiol, cynigiais ddod yn Ymddiriedolwr, a dyma fy mhrif gysylltiad â'r elusen erbyn hyn. Gyda fy ngŵr, rwyf wedi cwblhau nifer o wyliau seiclo yn y DU (gan gynnwys o Land’s End i John O'Groats) ac mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Fe addysgon ni ein merched sut i seiclo ac rydyn ni bellach yn y broses o helpu ein chwe wyrion! 

Mae'r ddau ohonon ni’n defnyddio beiciau i gymudo o le i le yng Nghaerdydd, gan defnyddio ceir cyn lleied â phosibl. Ar ôl wynebu salwch yn 2021 a goroesi, rydym wedi trosglwyddo i feiciau trydan ar gyfer pellteroedd hirach ac wedi dysgu drosom ein hunain bod beiciau ar gael sy’n addas i bawb. Rwyf wrth fy modd yn seiclo, ac mae helpu Pedal Power fel bod pobl eraill yn gallu cael yr un mwynhad yn bwysig iawn i mi.

Tony Hendrickson 

Dros y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi cael y pleser o fod yn gwsmer, partner prosiect, gweithiwr ac ymddiriedolwr gyda Pedal Power. Rwyf wedi gweithio yn y sectorau cydraddoldeb hiliol, datblygu cymunedol a chelfyddydau cymunedol ers dros 20 mlynedd. Fel ymarferydd cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, rwy’n hwyluso sgyrsiau ac yn cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth sy’n seiliedig ar gydraddoldeb i ystod o randdeiliaid, mentrau, grwpiau, sefydliadau a phartneriaethau ar draws y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus. Rwy’n credu’n gryf bod mwy nag un ffordd o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb gan fod angen cydnabod sut mae gwahanol ffactorau yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar fywydau unigol a chymunedol pobl. Mae gen i fab sydd yn ei arddegau ac rwy’n mwynhau seiclo am ei fod yn hwyl ac o les i fy ffitrwydd.

Sheila Johnson

Ar ôl bod yn athrawes ar ddechrau fy ngyrfa, symudais yn fuan wedi hynny i faes Gwaith Cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau – yn y gymuned, gofal preswyl, ysbyty a gwaith maes. Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil, symudais yn ôl i addysgu ond y tro hwn fel darlithydd prifysgol ar gwrs Gwaith Cymdeithasol. Roedd diddordeb arbennig gen i mewn cymhwyso dysgu a theori yn amgylchedd y lleoliad ymarfer, gan ddefnyddio’r gwerthoedd sy'n sail ar gyfer arferion proffesiynol. Ar ôl gadael y byd academaidd fe wnes i ddod o hyd i angerdd at seiclo ar daith elusennol ar draws Gwlad Pwyl ar gyfer Marie Curie – taith y cefais wybod amdani pan oeddwn yn gwirfoddoli yn yr hosbis leol. Fe wnaeth y profiad hwn drawsnewid fy mywyd mewn sawl ffordd. 

Yn fuan wedi hynny, fe wnes i glywed am Pedal Power (oedd yn gweithredu o gynhwysydd bryd hynny!) ac ers hynny rwyf wedi gwirfoddoli yn y caffi, y sied feiciau, mewn ysgolion, ac yn fwy diweddar mewn reidiau â chymorth o bob math.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i wirfoddoli gydag elusen genedlaethol sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Tan yn ddiweddar, rydw i hefyd wedi bod yn helpu mewn sefydliad cynnal lleol, gan gynorthwyo ceiswyr lloches sy’n aros yng nghartrefi pobl lle mae ystafell sbâr wedi’i chynnig am gyfnod o amser. Trwy fod yn Ymddiriedolwr yn Pedal Power, rwy'n gobeithio defnyddio fy mhrofiad a'm hangerdd dros seiclo i annog a chynorthwyo eraill i fwynhau’r llawenydd o 'wynt ar eich wyneb', a'r ymdeimlad o ryddid y gall seiclo ei roi i bawb.

bottom of page