top of page

Gwell ar Feic (Better by Bike) - sesiynau Dysgu Seiclo a Magu Hyder rhad ac am ddim

Dewch i gwrdd â Caroline ac Alice - y Swyddogion Seiclo sy'n rhedeg ein menter newydd 'Gwell ar Feic' (BBB) a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

 

Gan weithio gyda phobl sydd wedi’u cyfeirio atyn nhw gan sefydliadau lleol, nod BBB yw mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw drwy gynnig o leiaf 6 sesiwn Dysgu Seiclo a Magu Hyder yn rhad ac am ddim i oedolion ar incwm isel a/neu sy'n cael trafferth fforddio Trafnidiaeth Gyhoeddus i fynd o gwmpas Caerdydd. Ar ôl y sesiynau, bydd unigolion yn cael y cyfle i brynu beic sydd wedi'i adnewyddu gennym ni (gan gynnwys helmed, clo) am bris rhesymol - fel bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cyfarpar i seiclo'n hyderus!

 

Cynhelir sesiynau awr o hyd bob dydd Iau a dydd Gwener sy’n cychwyn ym Mhencadlys Pedal Power ym Mharc Carafannau Caerdydd. Hoffech chi gael gwybod rhagor? 

Os ydych chi'n unigolyn neu'n dod o sefydliad lleol, cysylltwch ag Alice a Caroline drwy ebostio  betterbybike@cardiffpedalpower.org.uk

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fynd â fy mhlant i seiclo o'r diwedd” - Rhagfyr 2023

“Gwych, byddwn yn annog pawb i wneud cwrs seiclo os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny o'r blaen” - Rhag 2023

Hamed BBB Participant (consented).jpg

Mae gweithio ar y prosiect hwn yn brofiad gwerth chweil, yn enwedig nawr ein bod ni'n dechrau gweld pobl yn cael y fath fudd ohono. Rydym yn mwynhau gweithio gydag ystod eang o bobl ag anghenion ac amgylchiadau gwahanol, a rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r dulliau iddyn nhw allu seiclo'n annibynnol.

​

Dyma’r beiciwr cyntaf i gwblhau ei sesiynau hyfforddi gyda ni a phrynu ei feic ail law. Yn y llun gyda Caroline ac Alice (Awst 2023).

Diolch yn fawr Alice a Caroline, roedd y sesiynau yn wych! Rwy'n teimlo'n fwy hyderus nawr ac yn gallu seiclo’n well, yn enwedig i fyny bryniau!” - Medi 2023

bottom of page